Rhif y ddeiseb: P-06-1346

Teitl y ddeiseb: Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Geiriad y ddeiseb: Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan annatod wrth gysylltu plant Cymru â chyfleoedd addysgol, cymdeithasol a gwaith.

Fodd bynnag, yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymell trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwella twf economaidd.

Roedd cynhadledd ENYA yn 2022, lle roedd 2 gynrychiolydd ifanc o Gymru yn bresennol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy.

 

 

 


1.        Y cefndir

Yn ôl Sefydliad yr RAC mae prisiau trên y DU 35 y cant yn uwch, a phrisiau bysiau tua 54 y cant yn uwch na degawd yn ôl, tra bod cyflogau cyfartalog wedi cynyddu ychydig o dan 40 y cant. Mae hefyd yn dangos bod cost moduro tua 43 y cant yn uwch.

Canfu adroddiad a gynhaliwyd yn 2022 gan Sustrans Cymru fod y costau cynyddol o deithio ar fysiau yn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc, sy'n dibynnu’n fwy ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.

Yn 2021 roedd 15 y cant o allyriadau tŷ gwydr Cymru yn dod o drafnidiaeth. Nod Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2Llywodraeth Cymru yw lleihau hyn 22 y cant erbyn 2025. Mae hefyd yn anelu at gynyddu cyfran y teithiau a wneir ar drafnidiaeth gyhoeddus o tua 5 y cant i 13 y cant erbyn 2040.

Yn unol â hynny, mae Strategaeth Drafnidiaeth 2021 yn canolbwyntio ar annog pobl i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy wella seilwaith, dibynadwyedd a phrofiad teithwyr. Fodd bynnag, cydnabyddir pwysigrwydd fforddiadwyedd hefyd. Mae Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027 Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i archwilio cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus consesiynol ar gyfer pobl ifanc, a dywedodd ei rhaglen lywodraethu 2021-2026 y byddai’n:

Archwilio estyniadau i Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc.

Mae Fy Ngherdyn Teithio 16-21 yn rhoi gostyngiad o 30 y cant i ddeiliaid ar fysiau yng Nghymru. O ran rheilffyrdd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig teithiau trên am ddim ar adegau tawel i bobl o dan 16 oed sy’n teithio yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn, a gall plant dan 11 oed deithio am ddim unrhyw bryd. Mae'r gostyngiadau tocynnau rheilffordd i bobl ifanc sydd ar gael ledled Prydain Fawr yn cynnwys 16-17 Saver a chardiau rheilffordd National Rail, sy'n cynnig gostyngiadau o 50 y cant a 33 y cant yn y drefn honno.

Mae amrywiaeth o gynlluniau eraill ar waith ledled Prydain Fawr sy'n cynnig teithio am ddim neu am bris gostyngol i bobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys cynnig TfL o deithiau bws a thramiau am ddim i bobl o dan 18 oed sy’n byw yn Llundain, a theithio am ddim ar y rheilffyrdd i blant dan 10 oed. Yn nodedig, cyflwynodd yr Alban deithiau bws am ddim i bobl rhwng 5 a 21 oed ar 31 Ionawr 2022. Yn ôl Transport Scotland, ym mis Mai 2023 roedd y nifer a oedd yn manteisio tua dwy ran o dair o’r defnyddwyr sy’n gymwys i’w gael, ac mae’r cynnydd yn y niferoedd sy’n manteisio wedi caniatáu i rai gwmnïau bysiau gynyddu’r gwasanaethau a ddarperir. Fodd bynnag, mewn rhai adroddiadau yn y cyfryngau beiwyd y cynllun am gynyddu anhrefn ar fysiau.

Mae cymorth prawf modd gyda chostau teithio sy'n gysylltiedig ag addysg ar gyfer plant dan 16 oed hefyd ar gael yng Nghymru a Lloegr gan awdurdodau addysg lleol, a gall pobl ifanc 16-18 oed wneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 25 Mai 2023, cydnabu Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y gall prisiau bysiau isel annog mwy o deithio ar fysiau. Cyfeiriodd at fentrau teithio gostyngol diweddar megis treialon bws am ddim yng Nghasnewydd ym mis Mawrth 2022 a'r cynllun bws am ddim dros yr haf yn Abertawe. Amlinellodd hefyd y mesurau sy'n cael eu hystyried i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy yng Nghymru, gan gynnwys:

y posibilrwydd o gyflwyno prisiau sengl a fydd yn cael eu capio, prisiau a fydd yn gysylltiedig â pharthau, tocynnau integredig ar gyfer bysiau a threnau, a thocynnau gwell ar gyfer pobl ifanc.

Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog hefyd at ddiwygiadau arfaethedig i fysiau. Mae papur gwyn 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn' a Strategaeth Bysiau 2022 cysylltiedig Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynigion ar gyfer masnachfreinio a allai, mae’n dweud, wella fforddiadwyedd trwy wneud gweithredwyr trafnidiaeth:

… roi pobl o flaen elw ac i wneud bysiau mor hawdd a deniadol i’w defnyddio ag y gallwn.

Roedd cynlluniau hefyd yn cynnwys cynigion i symleiddio’r rhwydwaith bysiau a phrisiau tocynnau, fel y bo:

… pob bws yn rhedeg ar yr un system docynnau, a bod tocynnau pobl yn seiliedig ar y daith y byddant yn ei gwneud yn hytrach nag ar brisiau’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwybr y byddant yn digwydd bod yn teithio arno.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, er bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i wella mentrau prisiau bysiau, bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu er mwyn cynnal gwasanaethau bysiau hanfodol cymunedau.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn dilyn ei ymchwiliad yn 2022 i deithio ar fysiau a’r rheilffordd , tynnodd adroddiad mis Hydref 2022 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith sylw at bryderon gan yr Athro Mark Barry nad oedd tocynnau bws consesiynol yn deg i bobl ifanc. Dywedodd y canlynol:

…providing a bit more support for younger people in a very uncertain work environment where travel costs make up a disproportionately high proportion of what people actually earn.

O ganlyniad i hyn, argymhellodd yr adroddiad :

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynigion cyn gynted â phosibl i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth yng Nghymru sy’n deillio o’r argyfwng costau byw, gan gynnwys prisiau teithio â chymhorthdal a chymorth ariannol arall.

Wrth ymateb, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Ailadroddodd ei diddordeb mewn adeiladu ar y cynllun Fy Ngherdyn Teithio, ond nododd bod cyfyngiadau cyllidebol yn ffactor cyfyngol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.